Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00188
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
28 Mai 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rôl barhaol yw hon am 21 awr yr wythnos.

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe'n cynnig wyth rhaglen radd amser llawn, ac ychwanegir dwy raglen ran-amser newydd ar gyfer 2024. Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn rhan o’r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae bron pob un o’r rhaglenni a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei haddysgu yn yr Ysgol hon. Yn ogystal â Gwyddor Gofal Iechyd, mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwyddor Barafeddygol. Mae hyn yn meithrin diwylliant o hyfforddiant proffesiynol ac addysg ryngddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag uned academaidd yr Adran Gwyddor Gofal Iechyd. Bydd y Darlithydd mewn Peirianneg Feddygol yn gyfrifol am addysgu cynnwys Peirianneg Feddygol craidd y Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr ran-amser

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr