Trosolwg
Darlithydd mewn Troseddeg ac aelod o dîm cyflogadwyedd Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yw Joe. Mae hefyd yn aelod o'r Grwpiau Ymchwil Hawliau Plant a Chyfiawnder Arloesol Ieuenctid.
Mae ymchwil ddoethurol Joe yn canolbwyntio ar gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, yn enwedig felly rôl a dylanwad timau troseddau ieuenctid Cymru yng nghyd-destun cyfiawnder ieuenctid cyn datganoli.
Cyn dechrau gyrfa academaidd gyda Phrifysgol Abertawe, bu Joe yn gweithio fel ymarferwr gydag elusen Llamau, gan gefnogi pobl ifanc sy’n agored i niwed o ran eu hailsefydlu mewn tai a chynnig cefnogaeth o safbwynt gyrfa a datblygiad proffesiynol.