Mae'r dudalen hon yn rhestri unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd i’r rhaglenni israddedig ers i ni gyhoeddi'r Prosbectws. Mewn cromfachau ar ddiwedd y newidiadau mae'r mis a blwyddyn y cyhoeddwyd y newidiadau i'r rhaglen.

2023 - Newidiadau i Raglenni

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

BEng Peirianneg yn newid teitl i BEng Peirianneg Gyffredinol - mae hyn yn gymwys o fis Medi 2023 ymlaen.

BEng Peirianneg gyda Blwyddyn Dramor yn newid teitl i BEng Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Dramor - mae hyn yn gymwys o fis Medi 2023 ymlaen.

BEng Peirianneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn newid teitl i BEng Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - mae hyn yn gymwys o fis Medi 2023 ymlaen.

BEng Peirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen yn newid teitl i BEng Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Sylfaen - mae hyn yn gymwys o fis Medi 2023 ymlaen.

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

BSc Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Iaith Saesneg - mae teitl y cwrs yn newid i BSc Iaith Saesneg a Ieithyddiaeth Gymhwysol o fis Medi 2023

BSc Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Dramor - mae teitl y cwrs yn newid i BSc Iaith Saesneg a Ieithyddiaeth Gymhwysol gyda Blwyddyn Dramor o fis Medi 2023

BSc Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Iaith Saesneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - mae teitl y cwrs yn newid i BSc Iaith Saesneg a Ieithyddiaeth Gymhwysol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant o fis Medi 2023

BSc Marchnata - mae newidiadau wedi bod i'r modiwlau a byddant yn dod i rym ym Medi 2024. Bydd y manylion diweddaraf ar y dudalen cwrs.

BSc Rheoli Busnes - mae'r llwybrau addysgu o fewn y cwrs hwn wedi cael eu diweddaru a byddant yn dod i rym ym Medi 2024. Bydd y manylion diweddaraf ar y dudalen cwrs.

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

BSc Nyrsio (Oedolion) - Campws Caerfyrddin - mae'r pwynt mynediad ym mis Mawrth 2024 wedi cael ei atal.

BSc Nyrsio (Dysgu Gwasgaredig) (Oedolion) - mae'r pwynt mynediad ym mis Mawrth 2024 wedi cael ei atal.

BSc Nyrsio (Dysgu Gwasgaredig) (Iechyd Meddwl) - mae'r pwynt mynediad ym mis Mawrth 2024 wedi cael ei atal.

BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) - mae'r pwynt mynediad ym mis Mawrth 2024 wedi cael ei atal.

2024 - Rhaglenni nad ydynt ar gael

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

BA Astudiaethau'r Oesoedd Canol, BA Astudiaethau'r Oesoedd Canol gyda Blwyddyn Dramor, BA Astudiaethau'r Oesoedd Canol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA Astudiaethau'r Oesoedd Canol gyda Blwyddyn Sylfaen - mae'r rhaglenni wedi cael eu tynnu'n ôl ac nid ydynt ar gael i ymgeisio amdanynt (Ebrill 2024).

BA Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd Saesneg - Tsieinëeg, a  BA Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd Saesneg - Tsieinëeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - mae'r rhaglenni wedi cael eu tynnu'n ôl ac nid ydynt ar gael i ymgeisio amdanynt (Ebrill 2024).

BSc Addysg a Chyfrifiadura a BSc Addusg a Chyfrifiadura gyda Blwyddyn Dramor - ataliwyd y rhaglenni hyn yn 2022 ond maent bellach wedi’u tynnu’n ôl yn llwyr (Ebrill 2024).

BSc Addysg a Mathemateg a BSc Addysg a Mathemateg gyda Blwyddyn Dramor - ataliwyd y rhaglenni hyn yn 2022 ond maent bellach wedi’u tynnu’n ôl yn llwyr (Ebrill 2024).

BSc Y Gwyddorau Cymdeithasol a BSc Y Gwyddorau Cymdeithasol gyda Blwyddyn Sylfaen - ataliwyd y rhaglenni hyn yn 2022 ond maent bellach wedi’u tynnu’n ôl yn llwyr (Ebrill 2024).

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

BSc Nyrsio (Dysgu Gwasgaredig) (Iechyd Meddwl) - mae'r rhaglen hon wedi cael ei hatal ac nid oes modd gwneud cais ar gyfer Mawrth 2025 i'w hastudio (Mai 2024).

BSc Nyrsio (Dysgu Gwasgaredig) (Oedolion) - mae'r rhaglen hon wedi cael ei hatal ac nid oes modd gwneud cais ar gyfer Mawrth 2025 i'w hastudio (Mai 2024).

2023 - Rhaglenni nad ydynt ar gael

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

BS Addysg a Chyfrifiadureg - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2023

BSc Addysg a Chyfrifiadureg gyda Blwyddyn Dramor - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2023

BSc Addysg a Mathemateg - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2023

BSc Addysg a Mathemateg gyda Blwyddyn Dramor - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2023

BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2023. Sylwch bod y rhaglen BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn dal i fod ar gael.

BA Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi - Nid yw ar gael

BA Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi gyda Blwyddyn Dramor - Nid yw ar gael

BA Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - Nid yw ar gael

BSc Rheoli Busnes (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) - roedd y cwrs wedi cael ei ohirio yn barod ac nid yw bellach ar gael.

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

BSc Nyrsio Dysgu Gwasgaredig (Iechyd Meddwl) - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym mis Mawrth 2023

BSc Nyrsio Dysgu Gwasgaredig (Oedolion) - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym mis Mawrth 2023

BSc Nyrsio (Oedolion) - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym mis Mawrth 2023 yng Nghaerfyrddin 

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

BSc Daearyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol - Nid yw bellach ar gael